P-05-828 Rhagdybiaeth o blaid Ysgolion Gwledig – Gohebiaeth Cymdeithas yr Iaith Gymraeg at y Cadeirydd, 6.12.18
Annwyl Bwyllgor Deisebau,
Buon ni fel aelodau Cymdeithas yr Iaith yn cydweithio gyda rhieni Ysgol Bodffordd i gasglu enwau ar y ddeiseb. Bu'r drafodaeth yn y siambr yn gyffredinol iawn am ysgolion gwledig, ond roedd nod y ddeiseb yn benodol iawn - sef pa gamau y gallai'r llywodraeth ganolog eu cymryd i sicrhau fod Awdurdodau Lleol yn cadw at ofynion statudol a chanllawiau'r Côd Trefniadaeth Ysgolion y cyhoeddwyd ail fersiwn ohono ar Dachwedd 1af eleni. Defnyddiwyd enghraifft ymgynghoriad Ynys Môn am ddyfodol Ysgol Bodffordd i ddangos nad oedd yr Awdurdod Lleol yn cadw at ofynion argraffiad cyntaf (2013) Côd Trefniadaeth Ysgolion. Gofynnir felly beth yw diben cyhoeddi côd newydd - gyda rhagdyb o blaid cadw a datblygu ysgolion gwledig - os nad oes camau i sicrhau nad yw Awdurdodau Lleol yn anwybyddu gofynion y côd.
Yn yr ymgynghoriad ar Ysgol Bodffordd, torrodd Cyngor Ynys Môn ofynion statudol yr hen gôd mewn nifer o ffyrdd (heb sôn am beidio â "chadw at ysbryd y côd newydd" fel y gofynwyd iddynt gan yr Ysgrifennydd Addysg)
CÔD TREFNIADAETH YSGOLION CYFREDOL -
006/2013
* Mae'r Côd yn deillio o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth
Ysgolion (Cymru) 2013, ac yn cynnwys cymalau y mae'n rhaid i
Awdurdodau Lleol eu dilyn wrth lunio ac ymgynghori ar gynnig i gau
ysgol fel yr eglurir ar dudalen cyntaf y côd. Ni ellir
gorbwysleisio'r ffaith fod sail ddedfwriaethol i'r Côd. Mae'n
amlwg nad bwriad aelodau cynulliad wrth bleidleisio dros y Ddeddf
oedd cynnig i Awdurdodau Lleol côd y gallent dderbyn neu
wrthod ei gymalau yn ôl eu mympwy.
* Mae cymal 1.7 yn disgrifio'r camau y mae'n rhaid i Awdurdod Lleol
eu cymryd cyn ac wrth gynnig cau ysgol. Dywedir yn glir fod angen
llunio Asesiad o'r Effaith ar y Gymuned o gau'r ysgol yn y ddogfen
ymgynghorol. Ond ychwanegodd Cyngor Ynys Môn eu Hasesiad
amrwd ar gyfer ystyriaeth gan y Pwyllgor Gwaith. Ni bu o flaen pobl
yn y ddogfen ymgynghorol er mwyn denu sylwadau. Dywedir fod angen
"dangos sut y gellid cynnal unrhyw gyfleusterau cymunedol a
ddarperir gan yr ysgol ar hyn o bryd. Ni bu unrhyw ymdrech i wneud
hyn ; i'r gwrthwyneb, mae'r Ganolfan Gymunedol yn rhan integral o
adeilad yr ysgol. Cred yr awdurdod eu bod wedi bodloni gofynion y
côd trwy benderfynu cynnal trafodaeth gyda'r gymuned leol am
ddyfodol y ganolfan. Nid yw hyn yn gyfystyr â gwneud asesiad
o'r effaith ar y gymuned o gau'r ysgol.
* Mae'r un cymal 1.7 yn egluro "wrth ystyried a yw'n briodol cau
ysgol" (hynny yw, cyn ffurfio cynnig ac yn sicr yny ddogfen
ymgynghorol) fod angen rhoi sylw arbennig i'r canlynol -
a) "a ellid ystyried sefydlu ysgolion â mwy nag un safle fel
ffordd o gadw adeiladau, neu'r rhesymau dros beidio â dewis
yr opsiwn hwn". Ni bu unrhyw sylw o gwbl i bosibiliad greu ysgol 2
neu 3 safle'n cwmpasu adeilad newydd yn Llangefni, Bodffordd ac o
bosibl Henblas.
b) "a ellid ystyried posibiliadau amgen heblaw cau'r ysgol, megis
clystyru, cydweithredu neu ffedereiddio ag ysgolion eraill (gan
ystyried y posibilrwydd o ddefnyddio cysylltiadau TGCh rhwng
safleoedd ysgolion), neu'r rhesymau dros beidio ag ystyried y rhain
fel opsiwn amgen yn lle cau'r ysgol". Ni wnaed hyn o gwbl, Yn wir
un cymal o gyfeiriad oedd at ffedereiddio trwy'r ddogfen a hynny
mewn cyd-destun gwahanol.
c) "Dylai Awdurdodau lleol ystyried a fyddai'n ddichonadwy ac yn
ddarbodus cyd-leoli gwasanaethau lleol yn yr ysgol i wrthbwyso
costau cynnal yr ysgol". Ni bu unrhyw ymdrech i wneud hyn.
ch) "effaith gyffredinol cau'r ysgol ar y gymuned leol (gan gynnwys
colli cyfleusterau yn yr ysgol a ddefnyddir gan y gymuned leol), yn
enwedig mewn ardaloedd gwledig." Fel yr esboniwyd eisoes, ni wnaed
hyn, ac mae'r cymal hwn yn y côd yn pwysleisio fod y
côd presennol (cyn dod at y côd newydd) yn gweld fopd
ysgol wledig mewn sefyllfa arbennig.
* Wrth symud at adran 3 o'r Côd, mae cymal 3.1 yn egluro fod
yna "gyfraith achosion" y dylid cyfeirio ati, a bod yn
"rhaid i gynigwyr (cau ysgol) gofio'r pedair egwyddor
sylfaenol". Y bedwaredd egwyddor yw "sicrhau y caiff yr hyn sy'n
deillio o'r ymgynghoriad ei ystyried mewn ffordd gydwybodol pan
wneir y penderfyniad yn y pen draw." Mae'n amlwg na wnaeth
swyddogion Cyngor Ynys Môn gydymffurfio â'r egwyddor
hon. Fel enghraifft bu ymateb manwl (cannoedd lawer o eiriau) gan
Gymdeithas yr Iaith i'r ymgynghoriad. Gwnaeth y swyddogion
adroddiad brysiog ac arwynebol o'r ymatebion i'r ddogfen
ymgynghorol ar gyfer y Pwyllgor Gwaith wrth iddynt gymryd eu
"penderfyniad yn y pen draw". Ni bu ond un frawddeg yn yr adroddiad
i grynhoi ein pwyntiau manwl, ac ni chrybwyllwyd dim o fanylion ein
dadansoddiad o wendid y broses ymgynghorol, nac unrhyw gyfeiriad at
yr opsiynau amgen a awgrymwyd gennym fel "Ffederasiwn Cefni" yn
cwmpasu'r Ysgol Uwchradd ac ysgolion cynradd yr ardal fel dull mwy
effeithiol o wella safonau addysgol.
* Mae 3.2 yn pwysleisio lle canolog y Ddogfen Ymgynhori yn y
broses. Ond, fel y dywedwyd eisoes, ni chyfansoddwyd unrhyw ddogfen
ymgynghorol o'r newydd i ddadlau achos y cynnig newydd hwn. Yn
hytrach, ailgylchwyd hen ddpgfennau gyda llawer o gynnwys
amherthnasol, ac heb drin materion o bwys canolog wrth werthuso'r
cynnig newydd. Yn yr adran hon (tudalen 12) dywedir fod yn
"rhaid" i'r ddogfen gynnwys "disgrifiad o unrhyw ddewisiadau
amgen a ystyriwyd a'r rhesymau dros eu gwrthod". Mae'r ddogfen yn
amlwg ynmethu ar y pwynt hwn. Yr unig gyfeiriad at "ddewisiadau
amgen" yw rhestr o syniadau a godwyd gan ymgynghoreion mewn dau
ymgynghoriad blaenorol am drefn addysg yn ardal Llangefni yn
gyffredinol (y mwyafrif ohonynt yn amherthnasol i'r cynng arbennig
a newydd hwn oedd yn sail i'r ymgynghoriad) gydag un cymal o sylw i
bob un gan yr swyddogion. Ni bu unrhyw ymgais i werthuso'n
broffesiynol dedwisiadau amgen.
* Ailadroddir (tudalen 27) fod "rhaid cynnwys" y wybodaeth ganlynol
yn y ddigfen ymgynghorol, a dangoswyd eisoes fod yr Awdurdod wedi
methu ar y pwyntiau hyn -
a) "manylion unrhyw opsiynau amgen sydd wedi'u hystyried yn lle
cau'r ysgol a'r rhesymau dros beidio â bwrw ati â'r
rhain"
b) "effaith y cynigion ar y gymuned leol, yn enwedig mewn ardaloedd
gwledig"
* Mynnwn felly fod yr Awdurdod wedi methu yn y broses ymgynghorol
hyd yn oed yn ôl cymalau a gofynion y Côd presennol, a
bod y côd hwn hefyd yn datgan pwysigrwydd ysgol
wledig.
Mae'r côd hefyd yn mynnu fod Awdurdod Lleol yn ystyried "yn gydwybodol gyda meddwl agored" pob gwrthwynebiad i Rybudd Statudol i gau'r Ysgol. Daeth cyfnod gwrthwynebiadau i'r Rhybudd Statudol i gau Ysgol Bodffordd ar Hydref 29ain. O fewn diwrnod yr oedd y Cyngor wedi cyhoeddi ar eu gwefan (mewn adroddiad ar ysgolion ardal Amlwch) eu bwriad i symud ymlaen i gau Ysgol Bodffordd - sy'n amlygu nad oedd unrhyw fwriad yn y byd i ystyried y gwrthwynebiadau. Ymhellach mae'r adroddiad ar ysgolion Amlwch - a drafodir dan y Côd newydd (gan nad oes cynnig wedi ei wneud cyn 1/11/18) - yn cyfystyru "moderneiddio" gyda chau ysgolion ac mae pob opsiwn y cyfeirir ato yn cynnwys cau ysgolion. Mae'n amlwg felly nad oes bwriad yn y byd i lynu wrth argraffiad newydd y Côd i fod â rhagdyb o blaid ysgolion gwledig a cheisio syniadau am sut i'w cadw a'u datblygu.
Gofynnir eto felly beth yw diben cyhoeddi Côd os gall Awdurdodau Lleol ei anwybyddu. Defnyddiwyd dull deiseb gan fod yr Ysgrifennydd Addysg wedi osgoi ateb yn uniongyrchol bedair gwaith mewn gohebiaeth cwestiynau yn gofyn iddi ddweud yn fanwl pa "rymoedd wrth gefn" sydd gyda hi i ymyrryd a phryd yn union a sut yn y broses y gellir cwyno nad yw Awdurdod Lleol yn cadw at ofynion y Côd.
Yn ei llythyr diweddaraf, dywed yr Ysgrifennydd Addysg "Mae gan Weinidogion Cymru bwerau ymyrryd pan fyddant wedi eu bodloni nad yw awdurdod lleol wedi cydymffurfio â'i gyfrifoldebau statudol. Mae disgwyl bod prosesau lleol wedi eu defnyddio i'r eithaf. Mae'r Cod yn gosod safon uchel o ran ymgynghori, sy'n rhoi cyfle i chi godi unrhyw gwestiynau am ymgynghoriad yr awdurdod lleol. Os hoffech wneud cwyn ffurfiol yn erbyn yr awdurdod lleol, dylech gysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru." Ond unwaith eto nid oes esboniad ynghylch pryd yn y broses ymgynghorol, a thrwy ba ffurf, y gellir cyflwyno cŵyn. Erbyn i Ombwdsmon orffen adroddiad - ac ni wna gychwyn ymchwiliad hyd nes bod pob posibiliad arall wedi ei ddefnyddio - bydd y mater wedi ei hen setlo. Diben y ddeiseb felly yw ceisio ateb pa gamau yn union y gall y llywodraeth eu cymryd i sicrhau fod Awdurdodau Lleol yn cadw at ofynion y Côd Trefniadaeth Ysgolion a sut yn union y gellir cyflwyno cŵyn i'r Gweinidog a beth yn union yw ei grymoedd ymyrryd.
Yn gywir,
Grŵp Addysg, Cymdeithas yr Iaith